Myfyrdodau Cymylog / Murky Reflections
Collage ac addurno yw prif nodweddion fy ngwaith darlunio- gan ganolbwyntio ar fyd natur gan amlaf. Rwy’n hoffi cynnwys elfen tri dimensiwn yn fy ngwaith ac yn gwneud hyn drwy ychwanegu haenau ar ben ei gilydd sydd weithiau yn ymwthio allan i’r awyr.
Ar gyfer y prosiect hwn rwyf wedi arbrofi gydag inc, dŵr a phapur o wahanol bwysau i gyfleu fy astudiaethau i o lwydni neu fowld du. Rwy’n cysylltu’r mowld gyda phryder ac iselder a sut y gall goresgyn ac ennyn rheolaeth ar y ffordd hon o feddwl rhoi grym i chi a chodi eich hwyliau. O’r peth tywyll hwn rwyf wedi dadansoddi mowld ac wedi dod o hyd i’w harddwch ar lefel meicrosgopig – ac rwy’n cynnwys hyn yn y gwaith celf. Wrth i mi greu’r gwaith hwn, mae’n teimlo fel rhyw fath o therapi.
I work predominantly in collage and embellish with illustrations, usually of nature. I like to bring a three-dimensional element into my work and do this by building layers up on top of each other and sometimes protruding out into space.
For this project I have experimented with ink, water and different weights of paper to convey my studies into black mould. I liken the mould to anxiety and depression, and how overcoming and taking charge of this state of mind can be empowering and uplifting. From this dark subject I have analysed mould and found its beauty on a microscopic level, which I incorporate into the artwork. As I create this work, it feels like a type of therapy.