
In Memoriam
Cafodd y darn hwn o waith ei ysbrydoli gan hen dywel llaw a oedd yn hongian yng nghegin fy niweddar fam yng nghyfraith. Roedd ei dwylo wedi estyn at yr un lle ar y cadach dro ar ôl tro gan ei wisgo’n denau. Mwyaf y cai’r cadach ei erydu, y mwyaf o atgofion oedd y cadach yn ei ddal.
Fel artist tecstilau rwyf yn archwilio ac yn arbrofi gyda gwaith pwytho ar gadach a phapur. Rydw i’n teimlo bod yr elfen ailadroddus sy’n rhan o’r gwaith o bwytho â llaw yn gwneud i mi fyfyrio ac ymlacio. Rydw i’n mwynhau gweithio gyda deunyddiau naturiol a gwaith lliwio ac yn teimlo fy mod yn gallu cysylltu â’u rhinweddau sylfaenol. Rydw i’n credu bod gan wlân, cotwm a lliain gysylltiad cryf â’r gorffennol. Mae’r broses o nyddu, gwehyddu a lliwio yn sylfaen i fy ngwaith celf.
Mae gennym ni, fel bodau dynol, gysylltiad â thecstilau o’r dillad sy’n ein lapio yn dilyn ein genedigaeth i’r llieiniau amdo sydd o’n hamgylch pan fyddwn ni’n marw.
This body of work was inspired by a worn out hand towel hanging in my late mother-in-law’s kitchen. Her hands had reached for the same place on the cloth time and time again wearing it thin. The more the cloth was eroded the more memories were embedded into the cloth.
As a textile artist I explore and experiment with stitch on cloth and paper. I find the repetition of hand stitching both meditative and relaxing. I enjoy working with natural materials and dyes. I feel a connection to their basic qualities. I believe that wool, cotton and linen hold strong links to the past . The process of spinning weaving and dyeing form the foundation for my art.
As humans we are connected to textiles from our swaddling clothes at birth to our shroud when we die.